Castell Holt
Mae Castell Holt wedi ei leoli ar lan yr Afon Dyfrdwy ar ffin Cymru-Lloegr, ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne a’i wŷr, ieirll olynol o Surrey, yn dilyn trechiad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.
Darlun o adluniad Castell Holt, o’r gogledd-ddwyrain, c.1315, fel y darluniwyd gan Phil Kenning, 2014
Roedd Castell Holt yn gynllun pumochrog gyda phum tŵr crwn enfawr o amgylch cwrt canolog. Mae gan y castell hanes rhyfeddol yn llawn digwyddiadau:
- Roedd Meistr James o San Siôr, adeiladwr castell Edward 1af, mwyaf tebyg yn rhan o’i ddyluniad.
- Cymerodd Edward, y Tywysog Du, feddiant dros dro o’r castell yn y 14eg ganrif yn dilyn marwolaeth John de Warenne yn 1347.
- Atafaelodd Richard II y castell yn 1397 a’i wneud yn dŷ trysor preifat iddo ei hun.
- Daliodd y castell i’r Goron yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn Harri IV.
- Gwnaeth Syr William Stanley y castell yn gartref iddo yn 1484 ar ôl cefnogi Richard III fel brenin ond wedyn newidiodd ochr y flwyddyn wedyn ym Mrwydr Bosworth gan helpu Harri VII i drechu Richard III.
- Ymwelodd Harri VII â’r castell yn 1495 ar ôl i Syr William Stanley gael ei arestio am fradwriaeth.
- Cyhuddwyd William Brereton, stiward Bromfield ac Iâl- a fu’n byw yng Nghastell Holt yn ystod teyrnasiad Harri VIII, ar gam o gael perthynas gydag ail wraig y brenin, Ann Boleyn. Profwyd Brereton a’i ddienyddio.
- Roedd y castell yn gadarnle brenhinol yn ystod y Rhyfel Cartref a gwrthsafodd warchae o un ar ddeg mis yn 1646-7 nes ildiodd y garsiwn pan sylweddolon bod cefnogi Siarl I yn achos di-bwrpas.
Yn dilyn ildio ar ran y castell ar ddiwedd y Rhyfel Cartref, defnyddiwyd y safle fel chwarel gerrig a’r cyfan sydd ar ôl heddiw uwchben y ddaear yw’r cwrt canolog.
Castell Holt o’r gogledd-orllewin, Gorffennaf 2015
Yn dilyn prosiect 4 blynedd o adferiadau, ail-agorwyd weddillion Castell Holt i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2015. Bellach, gall ymwelwyr fwynhau y dehongliad newydd a gwell. Mae grisiau wedi eu gosod i alluogi mynediad i hen gwrt y castell.
Mae Castell Holt yn safle mynediad agored. Mae llwybr yn arwain o Stryd y Castell drwy Erddi’r Castell (LL13 9AX) i safle’r castell. Mae parcio a thoiledau ar gael yn Green Street (LL13 9JF). Mae teithiau tywys ar gyfer grwpiau ar gael. Cysylltwch ag Adran Amgueddfa ac Archifau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (ffôn: 01978 297 460) am fanylion.
- Hanes y Castell
- Archeoleg
- Ail-adeiladu’r Castell
- Rhith Castell Holt
- Castell Holt – Y Tyrau
- Adnoddau Dysgu
- Awgrymiadau ar Gyfer Teithwyr
- Cysylltiadau
Mae Castell Holt yn Henebyn Rhestredig Hynafol. Ni chaniateir aflonyddwch daear na defnyddio synhwyrydd metel o fewn yr ardal warchodedig heb ganiatâd gan Cadw.
Ariannwyd Prosiect Cadwraeth a Dehongli Castell Holt gan Northern Marches Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Cadw.
Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gydnabod y gefnogaeth a gafodd gan Gyngor Cymuned Holt, Ymddiriedolaeth Tref Holt a Chymdeithas Hanes Leol Holt.