Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Lle Peryglus

Yn y 1800au, roedd Iechyd a Diogelwch yn golygu gofalu amdanoch chi eich hun ac am eich gilydd. Ni wnaeth y llywodraeth ddechrau archwilio i weld a oedd pyllau plwm yn lleoedd diogel i weithio ynddynt tan 1873. Doedden nhw ddim!

DAMWAIN GLODDIO ERCHYLL YN Y MWYNGLAWDD
MARWOLAETH FRAWYCHUS PEDWAR DYN

Digwyddodd damwain ofnadwy yng ngwaith Plwm Unedig y Mwynglawdd nos Fercher pan laddwyd pedwar dyn yn y fan a'r lle yn y modd mwyaf erchyll. Oddeutu 10.30 ar y noson honno roedd pedwar o ddynion a oedd yn rhan o'r sifft nos yn cael eu gostwng mewn cludydd i lawr Siafft y Ddôl, pan, drwy ryw nam, torrodd y brif bowlten lygadog a oedd yn dal y cludydd rhyw 180 llath i lawr o'r wyneb. Hyrddiwyd y cludydd yn cynnwys y pedwar dyn i waelod y siafft , dyfnder o ryw 400 llath, gan ei falurio. Wrth gwrs, lladdwyd y dynion yn syth. Enoch Jones, gwr priod; John Foulkes, gwr sengl; David Davies, gwr sengl a Donald Douglas gwr sengl, oeddynt.

Wrexham Advertiser, 9 Chwefror 1901

Cynhaliwyd cwest mewn tafarn leol. Dywedodd y cwmni mwyngloddio bod y bowlten wedi'i chynllunio i gario pum tunnell. Roedd y caets gyda'r dynion yn pwyso llai na thunnell. Gofynnodd y crwner pam nad oedd cadwyni wedi'u cysylltu â'r caets fel mesur diogelwch. Roedd Archwiliwr y Mwyngloddiau wedi dweud bod y caets yn ddiogel, felly nid oedd y cwmni yn meddwl bod angen cadwyni diogelu.

Simon Hughes a John Williams yn y caets yn Siafft Lloyd.
© Archifdy Sir Ddinbych

Crynhodd y crwner drwy ddweud: 'Wrth gwrs, does dim bai o gwbl ar y cwmni am beidio â sicrhau bod cadwyni yno. Mae'n gwbl amhosibl dweud sut ddigwyddodd y ddamwain hon, ond mae'n dangos yr angen i wneud y cludydd ddwywaith mor ddiogel.'

Y canlyniad: cafodd dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol ei dwyn gan y rheithgor. Sicrhaodd Mr Wynne, Ysgrifennydd y Cwmni bod cadwyni yn cael eu hychwanegu i'r caets. Claddwyd Enoch Jones a John Foulkes ill dau ym mynwent Capel y Wern, ychydig bellter yn nes ymlaen ar y ffordd hon. Claddwyd Donald Douglas yng Nghaer a David Davies ym mynwent eglwys y Mwynglawdd. Cafodd pedwar bywyd eu torri'n fyr a gadawyd gweddw a phump o blant.

Llun o Y Marwdy a'r Efail ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd

Y Marwdy a'r Efail ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd